Pontio: The Rice Paper Diaries

Francesca Rhydderch a Yan Ying

Hong Kong, 1940. Mae teulu Cymraeg a mamaeth o Tsieina yn cael eu lluchio i ganol cyflafan gwrthdrawiad milwrol. Gan ddogfennu taith y teulu o Tsieina i bentref arfordirol yng Nghymru, mae’n stori deimladwy sy'n dangos effaith rhyfel ar fywydau unigolion. 

Wedi ei hysbrydoli gan hanes ei theulu, mae Francesca Rhydderch yn darllen o’i nofel arobryn (Llyfr y Flwyddyn Gwobr Ffuglen 2014), ac yn ymuno â hi mae Yan Ying sydd newydd gyhoeddi ei chyfieithiad o’r llyfr i’r Mandarin. Yn dilyn bydd sgwrs am ddigwyddiadau gwir y nofel, storïau traws-gyfandirol, a’r broses o gyfieithu.

Darlleniad: Saesneg a Mandarin. 1 awr.

Dydd Sadwrn 17 Chwefror

3-4pm
Ystafell Cemlyn Jones
Lefel 2
£5 (Tocyn Gweld Mwy)

Cyswllt : 01248 382828, www.pontio.co.uk

N00l