Pontio: G?yl Cymru Tsieina

Pontio
Dydd Gwener 16 Chwefror 2018 – Dydd Sul 18 Chwefror 2018

Dathlwch y Flwyddyn Newydd Tsieinïaidd yn Pontio, Bangor wrth i ni archwilio’r cysylltiad creadigol rhwng Cymru a Tsieina drwy gyfrwng celf a diwylliant arloesol!

Ymunwch â ni am benwythnos o arddangos diwylliant, iaith a chelf Cymru a Tsieina drwy gyfrwng dewis eclectig o berfformiadau, ffilmiau a gweithgareddau sy’n addas i’r teulu. Yr ?yl amlieithog hon yw’r cyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle na welwyd ei debyg o’r blaen i lwyfannu straeon a chydweithrediadau rhwng cerddorion, artistiaid a dramodwyr o Gymru a Tsieina.

Yn ogystal â chynhyrchiadau cyffrous a digwyddiadau byw, bydd ein sinema yn dangos nifer o wahanol ffilmiau Tsieinïaidd drwy gydol y penwythnos. Ar y dydd Sadwrn, mwynhewch gerddoriaeth fyw a digwyddiadau yn y cyntedd, a chymerwch ran mewn gweithdai crefft, addas i’r teulu i gyd ac yn rhad ac am ddim. Croeso i Flwyddyn y Ci!

Tocyn Gweld Mwy 
Arbed eich arian, a gweld mwy! Am £12 cewch fynediad i 2 digwyddiad byw ac 1 ffilm ar Sadwrn 17eg Chwefror.

Cyswllt : 01248 382828, www.pontio.co.uk

N00l